Gwell na deng mil o angylion,
Gwell na holl d'wysogion byd,
Yw y Gwr fu ar Galfaria,
Bywyd geir o'i angeu drud;
Hwnw'n unig,
Rydd i'm fuddugoliaeth lawn.
Mae'n rhoi bywyd ac ymgeledd
I rai'n gorwedd yn eu gwaed;
Gwisga'r noeth a golcha'r aflan,
Cwyd y truain ar eu traed;
Teilwng ydyw,
O'r gogoniant oll am hyn.
O! am fedru gwir ddyrchafu
Enw Iesu yn y byd;
Ein calonau fo'n ei garu,
Gan ei ogoneddu i gyd:
Boed coronau,
Fyrdd myrddiynau ar ei ben.
William Williams 1717-91
Tôn [878747]: Caersalem (Robert Edwards 1796-1862) gwelir: Dyma Geidwad i'r colledig |
Better than ten thousand angels,
Better than all the world's princes,
Is the Man who was on Calvary,
Life is had from his costly death;
He alone,
Gives to me full victory.
He is giving life and succour
To those lying in their blood;
He clothes the naked and washes the unclean,
He raises the wretched on their feet;
Worthy he is,
Of all the glory for this.
O to be able truly to exalt
The name of Jesus in the world!
May our hearts be loving him,
While all glorifying him:
Let there be crowns,
A myriad myriads on his head!
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|